Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (65) |
Ethol Dirprwy Lywydd Dros Dro
Cafodd Angela Burns ei hethol yn Ddirprwy Lywydd dros dro.
1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Dechreuodd yr eitem am 13:30.
Gofynnwyd y 15 cwestiwn.
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Dechreuodd yr eitem am 14:17.
Gofynnwyd cwestiynau 1-3 a 5–8. Cafodd cwestiwn 4 ei dynnu yn ôl.
3. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad o dan Reol Sefydlog 22.9
Dechreuodd yr eitem am 15:01.
NDM4985 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01-12 - a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 9 Mai 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9; a
2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad y canfuwyd methiant i gydymffurfio ac y dylid ceryddu Keith Davies AC.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4. Cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)
Dechreuodd yr eitem am 15:06.
NDM4984 Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol).
Gosodwyd Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 30 Ionawr 2012.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) gerbron y Cynulliad ar 4 Mai 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5. Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Asbestos (Adennill Costau Meddygol) (Mick Antoniw)
Dechreuodd yr eitem am 16:06.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Canlyniad y bleidlais:
NDM4955 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Mick Antoniw gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ddydd Gwener 16 Mawrth o dan Reol Sefydlog 26.90.
Mae’r wybodaeth cyn y balot ar gael drwy fynd i:
http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-legislation/bill_ballots/bill_040.htm
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 16:41.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM4986 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y sialensiau sy’n wynebu’r sectorau amaethyddiaeth a choedwigaeth a’u gwerth i economi Cymru;
2. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyflawni polisïau costeffeithiol i gefnogi’r diwydiannau gwledig hyn; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymgysylltu’n adeiladol â rhanddeiliaid y diwydiant;
b) gwella tryloywder ei pholisïau; ac
c) sicrhau bod ei pholisïau’n cyflawni gwerth am arian ac nad ydynt yn tanseilio swyddi gwledig yn y sector preifat.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
32 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
sicrhau bod y sector coedwigaeth yn cael ei gynrychioli'n ddigonol ar y lefel uchaf mewn unrhyw un corff amgylcheddol newydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw gweithredu’r cynllun Glastir wedi adlewyrchu pryderon y sector coedwigaeth yn ddigonol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
10 |
27 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4986 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y sialensiau sy’n wynebu’r sectorau amaethyddiaeth a choedwigaeth a’u gwerth i economi Cymru;
2. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyflawni polisïau costeffeithiol i gefnogi’r diwydiannau gwledig hyn; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymgysylltu’n adeiladol â rhanddeiliaid y diwydiant;
b) gwella tryloywder ei pholisïau;
c) sicrhau bod ei pholisïau’n cyflawni gwerth am arian ac nad ydynt yn tanseilio swyddi gwledig yn y sector preifat; a
d) sicrhau bod y sector coedwigaeth yn cael ei gynrychioli'n ddigonol ar y lefel uchaf mewn unrhyw un corff amgylcheddol newydd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17:33.
7. Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17:37.
NDM4987 Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Tîm Prydain Fawr: Cyfle Euraid.
Â’r Gemau Olympaidd yn cael eu cynnal ar yr ynysoedd hyn dros yr haf, mae’r ddadl fer hon yn ceisio cyflwyno’r ddadl chwaraeon, economaidd a diwylliannol o blaid caniatáu i bêl-droedwyr o Gymru gael bod yn rhan o Garfan Bêl-droed Tîm Prydain Fawr am y tro hwn yn unig.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:58
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, ddydd Mawrth, 22 Mai 2012